Senior Research Manager / Uwch Reolwr Ymchwil

Expires

1st April 2024

This is an exciting time of change for HEFCW as we prepare to move into the new Commission for Tertiary Education and Research (CTER), the new arm’s length body responsible for overseeing and funding post-16 education and research from August 2024.

As the largest funder of research in Wales, we currently provide in excess of £100 million a year to support the research activities of universities in Wales. Our Research, Innovation and Engagement Team is responsible for setting the direction of and implementing the policies and funding streams underpinning this investment. We are recruiting a Senior Research Manager to lead its research policy agenda within this team.

You will manage a range of research-based initiatives, working in partnership with other bodies, including government within Wales and the UK, as well as UK Research and Innovation (UKRI). In particular, you will work in partnership with the UK higher education funding bodies in England, Scotland and Northern Ireland to determine the design of the next exercise assessing the quality of research, building on the Research Excellence Framework. You will manage the development, implementation, monitoring and review of HEFCW’s funding streams for research, and ensure we support positive research cultures through our engagement with other policy initiatives.

Educated to a degree level (or with equivalent professional experience), you will be an experienced professional within the areas of research and/or higher education from a higher education institution, research funder or public sector organisation. You will have significant experience of implementing research policy and funding arrangements for the university sector, either within Wales or elsewhere in the UK. You will be able to successfully manage complex projects with minimal guidance, and communicate challenging issues confidently and clearly. The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

For more information please click Apply

HEFCW is a Disability Confident and Living Wage accredited employer. We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and people from an ethnic minority background, who are currently under-represented at HEFCW. We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

We encourage candidates to contact the line manager, Hywel Edwards hywel.edwards@hefcw.ac.uk or our HR department hrdepartment@hefcw.ac.uk in complete confidence with any queries about the vacancy or application process.

Uwch Reolwr Ymchwil

Mae hon yn adeg gyffrous o newid i CCAUC wrth i ni baratoi i symud i mewn i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) newydd, y corff hyd braich newydd a fydd yn gyfrifol am oruchwylio a chyllido addysg ôl-16 ac ymchwil o fis Awst 2024.

Fel cyllidwr mwyaf ymchwil yng Nghymru, ar hyn o bryd rydym yn darparu mwy na £100 miliwn y flwyddyn i gefnogi gweithgareddau ymchwil prifysgolion yng Nghymru. Mae ein Tîm Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu’n gyfrifol am bennu cyfeiriad y buddsoddiad hwn a gweithredu’r polisïau a’r ffrydiau cyllido sy’n ei danategu. Rydym yn recriwtio Uwch Reolwr Ymchwil i arwain ei agenda polisi ymchwil o fewn y tîm yma.

Byddwch yn rheoli ystod o fentrau sy’n seiliedig ar ymchwil, gan weithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill, gan gynnwys y llywodraeth yng Nghymru a’r DU, yn ogystal ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Yn arbennig, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyllido addysg uwch y DU yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i bennu dyluniad yr ymarfer nesaf a fydd yn asesu ansawdd ymchwil, gan adeiladu ar y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Byddwch yn rheoli’r broses o ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu ffrydiau cyllido CCAUC ar gyfer ymchwil, ac yn sicrhau ein bod yn cefnogi diwylliannau ymchwil cadarnhaol trwy ein hymgysylltiad â mentrau polisi eraill.

Byddwch wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd (neu â phrofiad proffesiynol cyfwerth), ac yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes ymchwil ac/neu addysg uwch o sefydliad addysg uwch, corff cyllido ymchwil neu sefydliad yn y sector cyhoeddus. Bydd gennych gryn brofiad o weithredu polisi a threfniadau cyllido ymchwil ar gyfer y sector prifysgolion, naill ai yng Nghymru neu yn rhan arall o’r DU. Byddwch yn gallu rheoli prosiectau cymhleth yn llwyddiannus heb ryw lawer o arweiniad, a chyfleu materion heriol yn eglur ac yn hyderus. Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ddymunol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar Ymgeisio

Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd. Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydym yn annog ymgeiswyr i gysylltu â’r rheolwr llinell, Hywel Edwards hywel.edwards@hefcw.ac.uk neu’r adran adnoddau dynol hrdepartment@hefcw.ac.uk yn gwbl gyfrinachol, gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r swydd wag neu’r broses ymgeisio.