Head of Research, Innovation and Engagement

Expires

9th February 2022

Location: Caerphilly (currently remote due to covid-19)

Salary: £50,159 – £58,095

Hours: Full time

Contract type: Permanent. Suitable for job share or secondment for the right candidate

Job ref: HE0182/696

Closes: 9 February 2022 at 17:00

HEFCW is the largest funder of research in Wales, providing in excess of £100 million a year to support the research, innovation and engagement activities of universities in Wales.  We are recruiting a Head of Research, Innovation and Engagement to lead the team responsible for setting the direction of research, knowledge exchange and civic mission activity in Wales.

Managing the development and implementation of HEFCW policies in relation to research and innovation, the successful candidate will work in partnership with other bodies, including government within Wales and the UK.  You will deliver major funding programmes that support university activity and will work closely with UK Research and Innovation and the higher education funding bodies in England, Scotland and Northern Ireland, including on joint initiatives such as the future of research assessment.

Educated to a degree level (or equivalent), you will be an experienced professional from a higher education institution or public sector organisation, with significant experience of implementing research and innovation policy and funding arrangements for the university sector, either within Wales or elsewhere in the UK.  The ideal candidate will demonstrate strategic vision, capacity to deal with complex issues and operate autonomously, excellent communication skills, and have experience in managing and motivating staff.

The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

For more information please click Apply

We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and those from an ethnic minority background who are currently under-represented at HEFCW.  We operate the disability confident standard and we encourage candidates to contact the line manager or HR with any queries about the vacancy or application process, particularly welcoming people from under-represented backgrounds. Full details of how to contact us are on our website. We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

 

Pennaeth Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu           

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

CCAUC yw corff cyllido ymchwil mwyaf Cymru, ac mae’n darparu dros £100 miliwn y flwyddyn i gefnogi gweithgarwch ymchwil, arloesi ac ymgysylltu prifysgolion yng Nghymru. Rydym yn recriwtio Pennaeth Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu i arwain y tîm sy’n gyfrifol am bennu cyfeiriad gweithgarwch yn gysylltiedig ag ymchwil, cyfnewid gwybodaeth a chenhadaeth ddinesig yng Nghymru.

Gan reoli datblygiad a gweithrediad polisïau CCAUC yn gysylltiedig ag ymchwil ac arloesi, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill, gan gynnwys y llywodraeth yng Nghymru a’r DU. Byddwch yn cyflwyno rhaglenni cyllido graddfa fawr sy’n cefnogi gweithgarwch prifysgolion ac yn cydweithio’n agos ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU a’r cyrff cyllido addysg uwch yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys mentrau ar y cyd fel yr asesiad dyfodol ymchwil.

Byddwch wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd (neu gyfwerth) ac yn weithiwr proffesiynol profiadol o sefydliad addysg uwch neu sefydliad sector cyhoeddus, â phrofiad sylweddol o weithredu polisi a threfniadau cyllido ymchwil ac arloesi ar gyfer y sector prifysgolion, naill ai yng Nghymru neu mewn rhan arall o’r DU. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn arddangos gweledigaeth strategol, y gallu i ymdrin â materion cymhleth a gweithredu’n annibynnol, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a phrofiad o reoli ac ysgogi staff.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ddymunol.

Cliciwch ar Ymgeisio am ragor o wybodaeth.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol, ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn arbennig, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd. Rydym yn gweithredu’r safon hyderus ynghylch anabledd ac yn annog ymgeiswyr i gysylltu â’r rheolwr llinell neu’r adran adnoddau dynol gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r swydd wag neu’r broses ymgeisio, gan groesawu pobl o gefndiroedd tangynrychioledig yn arbennig. Ceir manylion llawn am sut i gysylltu â ni ar ein gwefan. Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.