Widening Access and Transitions Manager / Rheolwr Ehangu Mynediad a Phontio

Expires

24th October 2022

Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW) / Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Could you help us to develop policy which enables more people to benefit from higher education in Wales? Are you interested in making sure that higher education is widely accessible to people from diverse backgrounds?

We are looking for a Widening Access and Transitions Manager to work with us to support the Welsh higher education sector to widen access and enable students from all backgrounds to progress to, and succeed in, higher education and lifelong learning.  You will also be involved in work on equality of opportunity, lifelong learning, and the relationship between higher and further education, while areas covered by the team also include supporting the well-being of future generations, and ensuring equality is at the heart of all we do as an organisation.

We are looking for an individual with strong analytical and problem solving skills, who can communicate effectively in a variety of ways appropriate to the audience. The role involves working closely as part of our Widening Access and Inclusion Team and also making links across the rest of HEFCW where there are connections to our work on the student experience, employability, civic mission and engagement.

Experience of the development and delivery of policy and processes is essential, ideally within a higher education environment. While the role will mean making a difference for students, you will not be working directly with students or delivering higher education activities.

You will lead the development, implementation and review of policy in areas relating to widening access and student transitions in higher education, and will manage relationships with some of our key stakeholders. You will monitor and review reports and plans submitted to us, support committees and produce papers and briefings. You will be organised, able to prioritise a diverse portfolio of work and progress it reliably, sometimes against the pressures of time.

The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

For more information and a full job description, please click here

We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and those from an ethnic minority background who are currently under-represented at HEFCW.

We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

Allech chi ein helpu i ddatblygu polisi sy’n galluogi mwy o bobl i gael budd o addysg uwch yng Nghymru? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr bod addysg uwch ar gael yn eang i bobl o gefndiroedd amrywiol?

Rydym yn chwilio am Reolwr Ehangu Mynediad a Phontio i weithio gyda ni i gynorthwyo’r sector addysg uwch yng Nghymru i ehangu mynediad a galluogi myfyrwyr o bob cefndir i gamu ymlaen at addysg uwch a dysgu gydol oes a llwyddo ynddynt. Byddwch hefyd yn rhan o waith ar gyfle cyfartal, dysgu gydol oes, a’r berthynas rhwng addysg uwch a phellach, tra bo meysydd a gwmpesir gan y tîm hefyd yn cynnwys cefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i bopeth a wnawn fel sefydliad.

Rydym yn chwilio am unigolyn â sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf, a all gyfathrebu’n effeithiol mewn amrywiaeth o ffyrdd yn briodol i’r gynulleidfa. Mae’r rôl yn golygu cydweithio’n agos fel rhan o’n Tîm Ehangu Mynediad a Chynhwysiant a hefyd creu cysylltiadau ar draws gweddill CCAUC lle ceir cysylltiadau â’n gwaith ar brofiad myfyrwyr, cyflogadwyedd, cenhadaeth ddinesig ac ymgysylltu.

Mae profiad o ddatblygu a chyflawni polisi a phrosesau’n hanfodol, yn ddelfrydol mewn amgylchedd addysg uwch. Er y bydd y rôl yn golygu gwneud gwahaniaeth i fyfyrwyr, ni fyddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda myfyrwyr nac yn cyflawni gweithgareddau addysg uwch.

Byddwch yn arwain gwaith i ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisi mewn meysydd sy’n ymwneud ag ehangu mynediad a phrosesau pontio myfyrwyr mewn addysg uwch, ac yn rheoli perthnasoedd â rhai o’n rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn monitro ac yn adolygu adroddiadau a chynlluniau a gyflwynir i ni, yn cefnogi pwyllgorau ac yn cynhyrchu papurau a dogfennau briffio. Byddwch yn drefnus, yn gallu blaenoriaethu portffolio amrywiol o waith a’i symud yn ei flaen mewn modd dibynadwy, weithiau yn erbyn pwysau amser.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ddymunol.

I gael rhagor o wybodaeth a swydd-ddisgrifiad llawn, cliciwch ar Ymgeisio

Rydym yn ymrwymedig i hybu gweithle amrywiol a chynhwysol ac, yn arbennig, rydym yn annog pobl LHADC+, pobl anabl a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn CCAUC ar hyn o bryd i gyflwyno ceisiadau.

Rydym yn falch i dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Hours: This post is full time but could be part time (at 0.8FTE) for the right candidate.

Contract type: Permanent. Also suitable for secondment

Placed on: 5 October 2022

Closes:  24 October 2022

Job ref: HE0202/703