Senior Innovation Manager / Uwch Reolwr Arloesi

Expires

30th November 2022

Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW) / Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

HEFCW is the largest funder of research in Wales, currently providing in excess of £100 million a year to support the research and innovation activities of universities in Wales. Our Research, Innovation and Engagement Team is responsible for setting the direction of and implementing the policies and funding streams underpinning this investment. HEFCW is recruiting a Senior Innovation Manager to lead its innovation policy agenda within this team.

You will lead the development of HEFCW’s policy and funding streams in relation to innovation, engagement and civic mission activities.  This will require you to work in partnership with other bodies in Wales and the UK including Welsh Government, central UK Government, UKRI and other HE funding bodies.  You will manage the development, implementation, monitoring and review of HEFCW’s funding streams for supporting innovation and engagement, in particular the Research Wales Innovation Fund.

Educated to a degree level (or with equivalent professional experience), you will be an experienced professional within the areas of innovation and/or engagement from a higher education institution, research funder or public sector organisation. You will have significant experience of developing and implementing policy and funding arrangements for the university sector, either within Wales or elsewhere in the UK. You will be able to successfully manage complex projects with minimal guidance, and communicate challenging issues confidently and clearly. The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

For more information please click here

HEFCW is a Disability Confident and Living Wage accredited employer. We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and people from an ethnic minority background, who are currently under-represented at HEFCW. We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

We encourage candidates to contact the line manager, Hywel Edwards (hywel.edwards@hefcw.ac.uk), or our HR department (hrdepartment@hefcw.ac.uk) in complete confidence with any queries about the vacancy or application process.

 

 

CCAUC yw’r cyllidwr mwyaf ar gyfer ymchwil yng Nghymru, gan ddarparu mwy na £100 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac arloesi prifysgolion yng Nghymru. Mae ein Tîm Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu’n gyfrifol am bennu cyfeiriad a gweithredu polisïau a ffrydiau cyllido sy’n tanategu’r buddsoddiad hwn. Mae CCAUC yn recriwtio Uwch Reolwr Arloesi i arwain ei agenda bolisi arloesi o fewn y tîm yma.

Byddwch yn arwain datblygiad polisi a ffrydiau cyllido CCAUC mewn perthynas â gweithgareddau arloesi, ymgysylltu a chenhadaeth ddinesig. Bydd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i chi weithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill yng Nghymru a’r DU gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth ganolog y DU, UKRI a chyrff cyllido AU eraill. Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu ffrydiau cyllido CCAUC ar gyfer cefnogi arloesi ac ymgysylltu, yn enwedig Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru.

A chithau wedi’ch addysgu i lefel gradd (neu’n meddu ar brofiad proffesiynol cyfwerth), byddwch yn weithiwr proffesiynol profiadol o fewn meysydd arloesi a/neu ymgysylltu o sefydliad addysg uwch, corff cyllido ymchwil neu sefydliad yn y sector cyhoeddus. Bydd gennych brofiad sylweddol o ddatblygu a gweithredu polisi a threfniadau cyllido ar gyfer y sector prifysgolion, naill ai yng Nghymru neu yn un o wledydd eraill y DU. Byddwch yn gallu rheoli prosiectau cymhleth yn llwyddiannus gydag ychydig iawn o arweiniad, a chyfleu materion sy’n gryn her yn hyderus ac yn eglur. Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ddymunol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch Apply

Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd. Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydym yn annog ymgeiswyr i gysylltu â’r rheolwr llinell, Hywel Edwards (hywel.edwards@hefcw.ac.uk), neu’r adran adnoddau dynol (hrdepartment@hefcw.ac.uk) yn gwbl gyfrinachol, gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r swydd wag neu’r broses ymgeisio.