Research Policy Manager

Expires

11th June 2020

Hours: Full time (0.8FTE considered for the right candidate). Suitable for secondment

Contract type: Permanent

Placed on: 13 May 2020

Closes:11 June 2020

Job ref: HE0165/686

 

HEFCW is the largest funder of research in Wales, currently providing in excess of £95 million a year to support the research activities of universities in Wales. Our Research, Innovation and Engagement Team is responsible for setting the direction of and implementing HEFCW policy for research. HEFCW is recruiting a Research Policy Manager to lead its research policy agenda within this team.

You will manage a range of research-based initiatives, working in partnership with other bodies, including government within Wales and the UK. In particular, you will work in partnership with the UK higher education funding bodies in England, Scotland and Northern Ireland to deliver the Research Excellence Framework (REF2021). You will manage the development, implementation, monitoring and review of HEFCW policies and funding streams.

Educated to a degree level (or equivalent),  you will be an experienced professional from a higher education institution, research funder or public sector organisation within the areas of research and/or higher education. You will have significant experience of implementing research policy and funding arrangements for the university sector, either within Wales or elsewhere in the UK. Ideally you will also have direct and significant experience of the implementation of research strategies and associated funding within the university sector.

The ability to communicate bilingually in Welsh or English is desirable.

For more information please click Apply

HEFCW warmly welcomes applications from all sections of the community and is pleased to accept application forms in Welsh and English.  Appointments will be made on merit.

CCAUC yw’r cyllidwr mwyaf ar ymchwil yng Nghymru, gan ddarparu mwy na £95 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd i gefnogi gweithgareddau ymchwil prifysgolion yng Nghymru. Mae ein Tîm Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu’n gyfrifol am bennu cyfeiriad a gweithredu polisi CCAUC ar gyfer ymchwil. Mae CCAUC yn recriwtio Rheolwr Polisi Ymchwil i arwain ei agenda polisi ymchwil fel rhan o’r tîm hwn.

Byddwch yn rheoli amrywiaeth o fentrau seiliedig ar ymchwil, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill, gan gynnwys y llywodraeth yng Nghymru a’r DU. Yn benodol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyllido addysg uwch y DU yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyflwyno Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021). Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu polisïau a ffrydiau cyllido CCAUC.

Wedi cael addysg hyd at lefel gradd (neu gyfatebol), byddwch yn weithiwr proffesiynol profiadol o sefydliad addysg uwch, cyllidwr ymchwil neu sefydliad yn y sector cyhoeddus ym maes ymchwil a/neu addysg uwch. Bydd gennych brofiad sylweddol o weithredu polisi ymchwil a threfniadau cyllido ar gyfer y sector prifysgolion, naill ai yng Nghymru neu yn unrhyw le arall yn y DU. Yn ddelfrydol bydd gennych hefyd brofiad uniongyrchol ac arwyddocaol o weithredu strategaethau ymchwil a’r cyllid cysylltiedig yn y sector prifysgolion.

Mae gallu cyfathrebu’n ddwyieithog yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn ddymunol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch Apply

Mae CCAUC yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned ac yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Penodir i’r swydd ar sail rhinweddau.