Senior Research Manager

Expires

14th July 2022

HEFCW is the largest funder of research in Wales, currently providing in excess of £100 million a year to support the research activities of universities in Wales. Our Research, Innovation and Engagement Team is responsible for setting the direction of and implementing the policies and funding streams underpinning this investment. HEFCW is recruiting a Senior Research Manager to lead its research policy agenda within this team.

You will manage a range of research-based initiatives, working in partnership with other bodies, including government within Wales and the UK, as well as UK Research and Innovation (UKRI). In particular, you will work in partnership with the UK higher education funding bodies in England, Scotland and Northern Ireland to determine the design of the next exercise assessing the quality of research, building on the Research Excellence Framework. You will manage the development, implementation, monitoring and review of HEFCW’s funding streams for research, and ensure HEFCW supports positive research cultures through our engagement with other policy initiatives.

Educated to a degree level (or with equivalent professional experience),  you will be an experienced professional within the areas of research and/or higher education from a higher education institution, research funder or public sector organisation. You will have significant experience of implementing research policy and funding arrangements for the university sector, either within Wales or elsewhere in the UK. You will be able to successfully manage complex projects with minimal guidance, and communicate challenging issues confidently and clearly. The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

 

Hours: Full time (job share considered for the right candidate)

Contract type: Permanent

 

HEFCW is a Disability Confident and Living Wage accredited employer. We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and people from an ethnic minority background, who are currently under-represented at HEFCW. We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

 

We encourage candidates to contact the line manager, Hywel Edwards (mailto:hywel.edwards@hefcw.ac.uk), or our HR department (hrdepartment@hefcw.ac.uk) in complete confidence with any queries about the vacancy or application process.

 

 

CCAUC yw corff cyllido ymchwil mwyaf Cymru, ac ar hyn o bryd mae’n darparu dros £100 miliwn y flwyddyn i gefnogi gweithgarwch ymchwil, arloesi ac ymgysylltu prifysgolion Cymru. Mae ein Tîm Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu yn gyfrifol am bennu cyfeiriad a gweithredu polisïau a ffrydiau cyllido sy’n sail i’r buddsoddiad hwn. Mae CCAUC yn recriwtio Uwch Reolwr Ymchwil i arwain ei agenda polisi ymchwil o fewn y tîm hwn.

Byddwch yn rheoli amrywiaeth o fentrau sy’n seiliedig ar ymchwil, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill, gan gynnwys y llywodraeth yng Nghymru a’r DU, yn ogystal ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Yn benodol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyllido addysg uwch y DU yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i bennu dyluniad yr ymarfer nesaf i asesu ansawdd ymchwil, gan adeiladu ar y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Byddwch yn rheoli gwaith i ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu ffrydiau cyllido CCAUC ar gyfer ymchwil, ac yn sicrhau bod CCAUC yn cefnogi diwylliannau ymchwil cadarnhaol drwy ein hymgysylltiad â chynlluniau polisi eraill.

Byddwch wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd (neu â phrofiad proffesiynol cyfwerth), ac yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes ymchwil ac/neu addysg uwch o sefydliad addysg uwch, corff cyllido ymchwil neu sefydliad yn y sector cyhoeddus. Bydd gennych gryn brofiad o weithredu polisi a threfniadau cyllido ymchwil ar gyfer y sector prifysgolion, naill ai yng Nghymru neu yn rhan arall o’r DU. Byddwch yn gallu rheoli prosiectau cymhleth yn llwyddiannus heb ryw lawer o arweiniad, a chyfleu materion heriol yn eglur ac yn hyderus. Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ddymunol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch Apply

 

Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd. Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Rydym yn annog ymgeiswyr i gysylltu â’r rheolwr llinell, Hywel Edwards (mailto:hywel.edwards@hefcw.ac.uk), neu’r adran adnoddau dynol (hrdepartment@hefcw.ac.uk) yn gwbl gyfrinachol, gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r swydd wag neu’r broses ymgeisio.

 

 

Note: Applications close: 14 July 2022 at 17:00

For more information please click here

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma